Genesis 11

Tŵr Babel

1Ar un adeg, un iaith oedd drwy'r byd i gyd. Roedd pawb yn defnyddio'r un geiriau. 2Pan oedd y bobl yn symud o le i le yn y dwyrain, dyma nhw'n dod i dir gwastad yn Babilonia
11:2 Babilonia Hebraeg,  Shinar sy'n hen enw am wlad Babilon.
ac yn setlo yno.
3Ac medden nhw, “Gadewch i ni wneud brics wedi eu tanio'n galed i'w defnyddio i adeiladu.” (Roedden nhw'n defnyddio brics yn lle cerrig, a tar yn lle morter.) 4“Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni'n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i'r nefoedd. Byddwn ni'n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy'r byd i gyd.”

5A dyma'r Arglwydd yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a'r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. 6Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw'n un bobl sy'n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. 7Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw'n deall ei gilydd yn siarad.” 8Felly dyma'r Arglwydd yn eu gwasgaru nhw drwy'r byd i gyd, a dyma nhw'n stopio adeiladu'r ddinas. 9Roedd y ddinas yn cael ei galw yn Babel am mai dyna ble wnaeth yr Arglwydd gymysgu
11:9 Hebraeg,  balal.
ieithoedd pobl, a'u gwasgaru drwy'r byd i gyd.

O Shem i Abram

(1 Cronicl 1:24-27)

10Dyma hanes teulu Shem:

Pan oedd Shem yn gant oed, cafodd ei fab Arffacsad ei eni (Roedd hyn ddwy flynedd ar ôl y dilyw.) 11Buodd Shem fyw am 500 mlynedd ar ôl i Arffacsad gael ei eni, a chafodd blant eraill.
12Pan oedd Arffacsad yn 35 oed, cafodd ei fab Shelach ei eni. 13Buodd Arffacsad fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Shelach gael ei eni, a chafodd blant eraill.
14Pan oedd Shelach yn 30 oed, cafodd ei fab Eber ei eni. 15Buodd Shelach fyw am 403 o flynyddoedd ar ôl i Eber gael ei eni, a chafodd blant eraill.
16Pan oedd Eber yn 34 oed, cafodd ei fab Peleg ei eni. 17Buodd Eber fyw am 430 mlynedd ar ôl i Peleg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
18Pan oedd Peleg yn 30 oed, cafodd ei fab Reu ei eni. 19Buodd Peleg fyw am 209 o flynyddoedd ar ôl i Reu gael ei eni, a chafodd blant eraill.
20Pan oedd Reu yn 32 oed, cafodd ei fab Serwg ei eni. 21Buodd Reu fyw am 207 o flynyddoedd ar ôl i Serwg gael ei eni, a chafodd blant eraill.
22Pan oedd Serwg yn 30 oed, cafodd ei fab Nachor ei eni. 23Buodd Serwg fyw am 200 mlynedd ar ôl i Nachor gael ei eni, a chafodd blant eraill.
24Pan oedd Nachor yn 29 oed, cafodd ei fab Tera ei eni. 25Buodd Nachor fyw am 119 mlynedd ar ôl i Tera gael ei eni, a chafodd blant eraill.
26Pan oedd Tera yn 70 oed, roedd ganddo dri mab – Abram, Nachor a Haran.

Teulu Tera

27Dyma hanes teulu Tera:

Tera oedd tad Abram, Nachor a Haran. Haran oedd tad Lot. 28Pan fuodd Haran farw, yn Ur yn Babilonia
11:28 Ur Roedd Ur ar y prif lwybr masnach rhwng Mesopotamia a Môr y Canoldir. Babilonia Hebraeg, “Caldeaid” sy'n hen enw ar bobl gwlad Babilon
lle cafodd ei eni, roedd ei dad Tera yn dal yn fyw.
29Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi'n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca.) 30Roedd Sarai yn methu cael plant.

31Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda'r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, hefyd Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond dyma nhw'n cyrraedd Haran ac yn setlo yno. 32Dyna lle buodd Tera farw, yn 205 oed.

Copyright information for CYM